Ynglŷn â’r ICO – Cymru
Mae swyddfa Cymru wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae’n gyfrifol am:
- ddarparu gwasanaeth cyngor ac ymholiadau cyffredinol i unigolion, sefydliadau ac awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru;
- ymchwilio i gwynion am ryddid gwybodaeth sy’n ymwneud ag awdurdodau cyhoeddus Cymru;
- gwella ymwybyddiaeth leol am hawliau gwybodaeth a hybu arferion da;
- ymgynghori â Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol ac eraill sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau i sicrhau bod polisïau a deddfau newydd yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a reoleiddir gennym;
- sicrhau bod buddion unigolion, sefydliadau ac awdurdodau cyhoeddus ledled Cymru’n cael eu hystyried wrth ddatblygu polisïau a chanllawiau’r ICO; ac
- ymateb i anghenion lleol drwy ddarparu gwasanaeth targededig a phriodol (mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg).
Pwy ydyn ni
|
Anne Jones, Comisiynydd Cynorthwyol Cymru, sy'n arwain ein swyddfa yng Nghymru. Ymunodd Anne â’r ICO yn 2003, gyda chefndir mewn gwaith llyfrgell a gwybodaeth a hefyd brofiad eang mewn TG. Mae ganddi radd anrhydedd mewn Ffrangeg ac Astudiaethau Gwybodaeth o Goleg Prifysgol Aberystwyth, a gradd MSc mewn Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth o Brifysgol Bryste. |
Cynhadledd Rhannu Gwybodaeth Cymru – 2011
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd, a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2011 yng Nghaerdydd.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi paratoi Cynllun laith Gymraeg sydd yn gosod allan sut y byddwn yn darparu gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg i'r cyhoedd yng Nghymru. Paratowyd y Cynllun gyda chymorth a chymeradwyaeth Bwrdd yr laith Gymraeg a daeth i rym ar 21 Mawrth 2007.
Manylion cysylltu ICO Cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru)
2fed Llawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
Ebost: cymru@ico.gsi.gov.uk
Gweld map mwy o faint